Neidio i'r prif gynnwys
English

Heb fewnlofnodi

Mewnlofnodwch

Pwy gaiff ddefnyddio WebFiling?

Gall pob cwmni â rhif cofrestru sy'n ddigidau i gyd e.e. 1020304 neu sy'n dechrau â'r llythrennau isod ddefnyddio WebFiling:

  • NI, RO ac SC ar gyfer Cwmnïau Cyfyngedig
  • OC, SO ac NC ar gyfer Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn ein canllaw ar cod blaen NILLP

Pa wybodaeth am y cwmni gaf i ei hanfon yn electronig?

  • Gallwch gyflwyno newidiadau i gyfeiriad y cwmni, ei gyfarwyddwyr a'i ysgrifenyddion yn rhad ac am ddim.
  • Micro endid a segur (heb fod ar gael i Gwmnïau Buddiannau Cymunedol na Phartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig)
  • Mae rhagor o wybodaeth ar ffeilio cyfrifon cwmni ar gael o'Ffeilio cyfrifon eich cwmni'
  • Datganiad cadarnhau £13
  • Newid enw £8 (gwasanaeth safonol) a £30 (gwasanaeth yr un diwrnod)
  • Cofrestru Arwystl (£15) a bodloni Arwystl

Gweld y rhestr lawn o drafodion WebFiling sydd ar gael

Pwy na chaiff ddefnyddio WebFiling?

Ni all cwmnïau neu bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi cael eu diddymu, eu trosi neu eu cau ddefnyddio WebFiling.

At hynny, nid yw datganiad cadarnhau WebFiling yn addas ar gyfer cwmnïau:

  • â 1,000 neu ragor o gyfranddeiliaid unigol neu gyd-gyfranddeiliaid
  • sy'n gorfod cyflwyno rhestrau o is-gwmnïau ac is-ymgymeriadau cysylltiedig
  • â nifer o fanylion cyfalaf dalwyd neu na thalwyd o fewn yr un dosbarth o gyfrannau
  • â manylion cyfalaf a dalwyd neu na thalwyd mewn arian treigl gwahanol i'r dosbarth o gyfrannau
  • â gwerth cyfrannau cyfanred nominal sy'n fwy na hyd at 12 rhif cyfan a 3 lle degol
  • â gwerth cyfrannau a thalwyd neu na thalwyd sy'n fwy na hyd at 9 rhif cyfan a 6 lle degol
  • sydd angen trosglwyddo mwy na 30 o drosglwyddiadau cyfrannau unigol fesul dosbarth yn ystod un sesiwn WebFiling
  • â mwy na 6 dosbarth o arian treigl o ran cyfrannau (yn berthnasol i SH01 hefyd)
  • â mwy na 10 cyd-gyfranddeiliaid fesul cyfranddaliad
  • sydd angen mewnbynnu mwy na 255 o newidiadau yn ystod un sesiwn WebFiling