Diogelwch y Safle

A fydd fy nata'n ddiogel?

Mae cyfuniad o'ch Cod Diogelwch ar gyfer WebFiling a Chod Dilysu'ch Cwmni yn golygu taw chi yw'r unig berson a gaiff gyflwyno data ar gyfer eich cwmni.

Rydyn ni'n ofalus iawn i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gyflwynir trwy ein gwefan yn unol â deddfwriaeth fel Deddf Diogelu Data 1998. Caiff unrhyw ddata ei hamddiffyn yn unol â safonau'r Llywodraeth.

Diogelwch

Mae'r gwasanaeth ar-lein yn defnyddio protocol Secure Socket Layer (128-bit SSL), sef y mecanwaith safonol y mae porwyr gwe yn eu defnyddio i amgryptio gwybodaeth. Mae'r SSL yn amgryptio'r holl wybodaeth fyddwch chi'n ei nodi cyn ei hanfon atom. Mae hyn yn sicrhau nad oes neb yn gallu rhyng-gipio'ch manylion a'u darllen. 

Defnyddio Cerdyn Credyd neu Ddebyd

Wrth i mi dalu ffi ffeilio ar WebFiling, sut ydw i'n gwybod y bydd y wybodaeth am fy ngherdyn talu yn ddiogel?

Mae Tŷ'r Cwmnïau yn defnyddio Barclays SmartPay, sef porth talu diogel, i gasglu manylion eich cerdyn. Caiff yr holl wybodaeth a rowch chi ar y sgrin Talu (gan gynnwys rhifau cardiau credyd a debyd) ei hamgryptio.

Caiff y wybodaeth ei thynnu o'r we a'i throsglwyddo i'r banc trwy gysylltiad preifat.

Cymorth WebFiling

Cymorth Cyffredinol
Gofynion y System
Cwestiynau Cyffredin
Cysylltu â ni
Geirfa