Neidio i'r prif gynnwys

Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwasanaeth WebFiling Tŷ'r Cwmnïau

Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwasanaeth WebFiling Tŷ'r Cwmnïau

Tŷ'r Cwmnïau sy'n rhedeg y gwasanaeth hwn. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan yn syml i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r gwasanaeth hwn yn gwbl hygyrch. Gwyddom nad yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF ar gael mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys dewisiadau amgen testun coll a strwythur dogfennau coll.

Beth i'w wneud os na allwch gael mynediad at rannau o'r gwasanaeth hwn

I gael gwybodaeth am y gwasanaeth hwn mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordio sain neu braille, cysylltwch â ni trwy:

Byddwn yn trafod pa gymorth y gallwn ei ddarparu i'ch helpu i gyflawni'ch cyfrifoldebau. Gyda'ch caniatâd, byddwn yn rhoi nodyn ar ein system fewnol.

Er enghraifft, os oes gennych nam ar eich golwg ac y byddai'n well gennym inni gysylltu â chi dros y ffôn, gallwn ffonio i'ch atgoffa pan fydd eich datganiad cadarnhau neu gyfrifon yn ddyledus.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r gwasanaeth hwn

Rydym yn parhau i wella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Cysylltwch â ni os oes gennych ofynion hygyrchedd nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae Tŷ'r Cwmnïau wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n rhannol â fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Rhestrir y rhai nad ydynt yn cydymffurfio yn yr adran nesaf.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys canlynol yn hygyrch am y rhesymau a ganlyn:

PDFs a dogfennau eraill

Nid yw'r mwyafrif o ddogfennau PDF yn hygyrch mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys dewisiadau amgen testun coll a strwythur dogfennau coll (na chrybwyllir gan DAC, ond sy'n dal i fod yn fater hysbys). Nid yw hyn yn cwrdd â maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (enw, gwerth rôl). Rydym yn ymchwilio i ddatrysiad i'r broblem hon a byddwn yn diweddaru'r datganiad hwn maes o law.

Sut wnaethon ni brofi'r gwasanaeth hwn

Rydym yn cynnal profion mewnol yn rheolaidd ar gyfer cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe V2.1 lefel A a lefel AA.

Archwiliwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf (yn allanol) ar 2 Rhagfyr 2019. Cynhaliwyd yr archwiliad gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.

Fe wnaethon ni brofi

  • Mewngofnodi / Cofrestru
  • Dilysu Cwmni
  • Proffil y cwmni
  • Dethol Cod SIC
  • Penodiad Cyfarwyddwr
  • Cadarnhad cyflwyno
  • Taliad

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Er mwyn gwella hygyrchedd ein gwasanaethau, rydym yn:

  • gweithio gyda defnyddwyr go iawn sydd â materion hygyrchedd i sicrhau bod ein gwasanaethau'n diwallu eu hanghenion
  • cynnal profion mewnol ar gyfer cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe V2.1 lefel A a lefel AA
  • gweithio gydag asiantaethau allanol ym mhrif ddinasoedd y DU i berfformio ymchwil defnyddioldeb gyda defnyddwyr
  • recriwtio cwsmeriaid trwy ein panel defnyddwyr i gymryd rhan mewn sesiynau yn ein labordy defnyddioldeb yng Nghaerdydd
  • adeiladu a phrofi ein gwasanaethau i fodloni gofynion hygyrchedd y llywodraeth
  • yn datblygu labordy technoleg gynorthwyol yn ein swyddfa yng Nghaerdydd i wella profion ein gwasanaethau a chodi ymwybyddiaeth o hygyrchedd

Paratowyd y datganiad hwn ar 5 Awst 2020. Fe'i diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Medi 2020.