Pwysig

Mae'r ffordd rydych chi'n mewngofnodi i WebFiling wedi newid

O hyn ymlaen, byddwch yn mewngofnodi gan ddefnyddio GOV.UK One Login. Gallwch greu GOV.UK One Login os nad oes un gennych eisoes.

Darllenwch fwy am y newidiadau i fewngofnodi i WebFiling..

Mewngofnodi i WebFiling

Yn WebFiling, gallwch:

  • ffeilio cyfrifon blynyddol a datganiad cadarnhau eich cwmni
  • ffeilio gwybodaeth cyfarwyddwr ac ysgrifennydd
  • cofrestu i gael negeseuon atgoffa trwy e-bost pan fydd eich cyfrifon a'ch datganiad cadarnhau yn ddyledus
  • awdurdodi pobl yn ddigidol i ffeilio ar gyfer eich cwmni ar-lein
Parhau
Os oes angen i chi ffeilio datganiad cadarnhau

Gallwch roi cynnig ar ein Gwasanaeth ffeilio datganiad cadarnhau os ydych chi'n ffeilio ar gyfer cwmni preifat cyfyngedig gan gyfranddaliadau sydd â:

  • un cyfranddaliwr yn unig
  • rhwng 1 a 5 swyddog
  • 5 o bobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA) neu lai
  • eisoes wedi darparu cod personol Tŷ'r Cwmnïau ar gyfer ei holl gyfarwyddwyr

Os oes angen i chi ffeilio dogfen arwystl (morgais)

Mae’n rhaid i chi fewngofnodi yma os oes angen i chi ffeilio dogfen arwystl (morgais) gan ddefnyddio cod dilysu rhoddwr benthyciadau. Peidiwch â chysylltu eich cyfrif â GOV.UK One Login, gan y bydd hyn yn eich atal rhag ffeilio arwystlon.